|
|
Ganwyd
Gwenllian tua'r 12fed o Fehefin 1282 yng Ngarth Celyn, Abergwyngregyn ger
Bangor. Nid oes sicrwydd pa bryd yn union y cafodd ei geni. Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru ("Llywelyn Ein Llyw
Olaf") oedd ei thad. Ei mam oedd Eleanor de Montfort, merch y
barwn Ffrengig Simon de Montfort a chwaraeodd ran allweddol yng
ngwleidyddiaeth Lloegr ar y pryd. Bu farw Eleanor yn fuan ar ôl genedigaeth Gwenllian.
Lladdwyd Llywelyn
ar yr 11eg o Ragfyr 1282. Mae amgylchiadau ei farwolaeth yn amheus (gweler
y ddolen isod). Tua chwe mis yn
ddiweddarach daeth Cymru i gyd dan reolaeth y Saeson. Nid oedd
Edward I, Brenin Lloegr, am i'r aeres fach Gwenllian gael plant a fyddai
efallai yn
gwrthryfela yn ei erbyn, felly aethpwyd â hi yn flwydd oed i leiandy Sempringham, Swydd
Lincoln. Treuliodd weddill ei hoes yno. Bu farw yno ar y 7fed
o Fehefin
1337 yn 54 oed.
Am fwy o
wybodaeth am gefndir hanesyddol Gwenllian, cliciwch fan
yma.
|
|