|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||
|
Tua hanner y ffordd rhwng Pointon a Billingborough, Swydd Lincoln, ar y B1177 (Map OS Landranger 130, Cyfeirnod Grid TF 109 326) mae lôn gert yn arwain tua'r gorllewin at Eglwys Sant Andreas (y cyfeirir ati fel "Abaty Sempringham" gan bobl leol) sydd yn cynnwys rhannau o'r adeilad gwreiddiol. Mae'r gofeb ger pont fechan lle mae'r lôn yn troi i'r dde. I weld map, cliciwch fan yma. Mae'r safle islaw'r gair "Well" sydd yn agos at y "33" mawr glas. Cewch fwyta yn The Old Ship Inn, Pointon, 01529 241 400. Mae arddangosfa am Wenllian yn yr eglwys. Cewch yr allwedd drwy ffonio'r Church Tourist Contact: 01529 240 260. Mwy am y gofeb - cliciwch fan yma. |
|