|
Plac Coffa Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.
Dyma'r plac osodwyd ar gopa'r
Wyddfa fore Iau, 24 Gorffennaf 2008 er cof a pharch y
Dywysoges Gwenllian. Gan
ddefnyddio llechfaen leol, y mae'r cainllythrennwr a
ddylunodd a cherfiodd y gofeb yn Sempringham wedi rhoi ei greadigedd ar
waith eto ar blac Yr Wyddfa. Cainllythrennwr
meini adnabyddus yn rhyngwladol yw Ieuan Rees, ac y mae ei waith i’w
weld mewn sawl lleoliad clodfawr. Y
mae’r Gymdeithas yn teimlo mai dim ond y gorau sydd yn ddigon dda
i’w chofeb i’r Dywysoges Gwenllian.
|