|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||
|
Gwenllian yn dod adref! Mae plac coffa Gwenllian bellach wedi'i osod ar graig ger copa'r Wyddfa! Y cainllythrennwr Ieuan Rees a'i gerfiodd, gyda help dyn arall, osododd y plac fore Iau, 24 Gorffennaf 2008. Eisoes mae'r plac wedi sbarduno sylwadau a thrafodaeth ymysg yr ymwelwyr. (Gweler y manylion.) Cyfarfod Blynyddol, Llanberis, 9 Mehefin 2007: Cyflwynwyd plac yr Wyddfa i Mr Rob Owen, Cyfarwyddwr Polisi Cymdeithas Eryri. Y plac yn yr Eisteddfod Genedlaethol: Daeth cannoedd o bobl i weld y plac oedd ar stondin y Gymdeithas yn Eisteddfod Sir y Fflint a'r Cyffiniau. Ailenwi Mynydd: Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi rhoi ei sylwadau ar y syniad o ailenwi Carnedd Uchaf yn Garnedd Gwenllian (gweler y manylion). Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru'r Ymddiriedolaeth, Iwan Huws, bod rhai yn credu mai cyfrifoldeb yr Ymddiriedolaeth yw cadw enwau lleoedd traddodiadol rhag eu newid, a bod eraill yn ofni y gallai dringwyr a cherddwyr fynd ar goll yn y mynyddoedd petai enwau cyfarwydd yn cael eu disodli gan rai newydd. Nid yw'n credu y gall yr Ymddiriedolaeth fynd â'r syniad ymlaen ar hyn o bryd. Efallai y byddai modd gosod enw ar gopa sydd yn ddienw hyd yn hyn, ac efallai hefyd y byddai modd gosod plac ar gopa'r mynydd a ddewisir yn gwahodd pobl i'w alw'n Garnedd Gwenllian. Mae'r Gymdeithas yn dal i chwilio am farn pobl a sefydliadau lleol. Beth yw eich barn chi? Cysylltwch â ni! |
|