|
|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||
|
Diweddarwyd 29 Tachwedd 2009 Ailenwiwyd o'r diwedd! Gweler y ddalen newyddion! Sefydlwyd y Gymdeithas er mwyn coffáu Gwenllian, merch Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru ("Llywelyn Ein Llyw Olaf"). Ar ôl marwolaeth Llywelyn, daeth Cymru i gyd dan reolaeth y Brenin Edward I o Loegr. Gorchmynnodd Edward i Wenllian, a oedd yn faban blwydd oed, gael ei chaethiwo i leiandy yn Lloegr fel na châi blant a allai adnewyddu annibyniaeth Cymru. Yno y bu hyd ei marwolaeth 53 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Noder os gwelwch yn dda - er i'r Gymdeithas gydnabod ei bod yn gymeriad hanesyddol pwysig, nid Gwenllian o Gydweli, a fu farw yn 1136 yn arwain byddin yn erbyn y Normaniaid, yw'r Wenllian a goffawn. Nodyn Arbennig Gofynnwyd i ni wneud yn glir fod Sant Gilbert, sefydlwr y lleiandy, wedi marw rhyw 134 o flynyddoedd cyn caethiwo Gwenllian, felly nid ef a'i derbyniodd i'r lleiandy. Nid oes dim ar ein gwefan yn gwrthddweud hyn. |
Updated 29 November 2009 Renamed at last! See news page! The Society was founded to commemorate Gwenllian, the daughter of Llywelyn the last ruling Prince of Wales ("Llywelyn The Last"). After Llywelyn's death, the whole of Wales came under the control of King Edward I of England. Edward ordered Gwenllian, a 1-year old baby, to be imprisoned in an English convent so that she would not have children who might restore Welsh independence. There she remained until her death 53 years later. Please note - although the Society recognises that she was an important historical character, Gwenllian of Cydweli, who died in 1136 leading an army against the Normans, is not the Gwenllian that we commemorate. Special Note We've been asked to make it clear that St Gilbert, the founder of the convent, died about 134 years before Gwenllian was imprisoned there, so it was not St Gilbert who admitted her to the convent. Nothing on our site contradicts this. |
|
||||||||||||||||||||||