|
(ar ōl ei gweld fel lleian
gwflog yn ei charreg goffa grai yn Sempringham) |
|
|
|
Ein
hangof a'i caethiwodd |
|
i
fynwent ei chwfaint |
|
a'i
dirwest. |
|
|
|
Ein
hangof a'i tynghedodd |
|
i
rythu a rhythu ar furiau |
|
heb
fenest. |
|
|
|
Ein
hangof a wadodd iddi, |
|
wrth
gloi a chrino'i chroth, |
|
gynnwrf
un don. |
|
|
|
Ein
hangof a'i halltudiodd |
|
i
fro heb ben mynydd |
|
na
haul ar fron. |
|
|
|
Ein
hangof a'i condemniodd |
|
i
farw heb ei geni'n fam |
|
i'n
hanwylo. |
|
|
|
Fe'i
rhyddhawn o'i hirbell |
|
pan
fynnwn allwedd |
|
i
agor ein hatgof. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|