Cymdeithas

y Dywysoges

Gwenllian

The Princess

Gwenllian

Society

Yn Sempringham
Gwaith y Prifardd Mererid Hopwood (2005)

Cartref
Y Ffeithiau
Hanes y Gymdeithas
Ymweld â Chofeb Gwenllian
Ar y Gweill
A fedrwch chi ein helpu?
Nwyddau ar Werth
Cysylltwch â ni!
Dolennau
Llyfrau
Eitemau Newyddion
Cerdd Mererid Hopwood
Atat ti down, Gwenllïan,

down â’th iaith, a down â thân

dy aelwyd i dawelwch

y lle hwn, lle mae holl lwch

dy hanes, lle mae d’enw’n

torri’n waedd tros eu tir nhw,

lle buost ti Gwenllïan

yn fud – down yn ôl i’r fan.

 

Doli glwt ein cenedl glaf.

Oet ein harwr tyneraf,

ein baban gwan, ein mam gaeth,

yn ifanc dy hynafiaeth,

ac atat ti, Gwenllïan,

y down o’th wlad, eneth lân,

dod eto i’r gwastatir

heddi i fan dy ddioddef hir.

 

Am fod cur ym mlaguro’r

gwanwyn, am fod cwyn mewn co’,

dyma pam mae’r fam na fu

a’i had yn dal i waedu,

a’r chwaer a fu’n garcharor

yn dal ar y daith ddi-dor

tua’r lle y tyr ei llais

a’i hanadlu’n ein hadlais.

 

Ynom ni mae Gwenllïan,

hi yw’r gerdd a nodau’r gân,

a chaiff hi eto’i choffhau.

 

Yma heddiw,

rhaid maddau.

Home
The Facts
History of the Society
Visiting Gwenllian's Memorial
What's on?
Can you help us?
Goods for Sale
Contact us!
Links
Books
News Items
Poem by Mererid Hopwood