|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||
|
Rhagor
o wybodaeth am Wenllian a'r oes y bu'n byw ynddo:
Cymysgir ein Tywysoges Gwenllian weithiau â Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan (Gwenllian Cydweli). Rhyfelwraig ddewr oedd y Gwenllian hon, a ymladdodd yn erbyn y Normaniaid ac a laddwyd fwy na chanrif cyn geni ein Tywysoges ni. Claddwyd Gwladus ferch Dafydd ap Gruffudd, cyfnither Gwenllian, yn Sixhills, Swydd Lincoln, ond ni wyddom union leoliad bedd Gwenllian ei hun. Wrth iddo ymweld â Sixhills yn ddiweddar, dywedwyd wrth y Dr John Davies mai ymosodiad y pla a rwystrodd lleianod Sempringham rhag achub corff Gwenllian pan ddiddymwyd y lleiandy gan Harri VIII. Mae llyfryn ar werth ym Mhlas Mawr, Conwy yn honni fod gan Lywelyn ap Gruffudd ferch o'r enw Katherine. Mae hyn yn ymddangos yn hollol anhanesyddol. A ydych wedi dod ar draws unrhyw dystiolaeth ar y pwnc? Sut y bu farw Llywelyn? Yn ôl yr hanes swyddogol, bu farw mewn sgarmes gyda milwyr y Brenin Edward. Mae 'na rai, fodd bynnag, sydd yn credu bod 'na gynllwyn yn ei erbyn. Gweler y llyfrau gan Anthony Edwards ar ein tudalen Llyfrau.
|
|