|
|
|
|
|
|
||||||||||||||||||||||||
|
Ffoto gan Dave Newbould ...er
cof am y Dywysoges Gwenllian: Yng nghadarnleoedd Eryri y saif tri mynydd a chanddynt hanes i'w adrodd. Yn sefyll yn falch ac yn dal, yn herio popeth a deifl y tywydd yn erbyn eu llethrau creigiog, symbolau a ydynt o'r rhai y dygant eu henwau, y rhai y bu eu bywydau, a'u brwydrau am genedligrwydd, mor arw â'r tywydd ac mor barhaol â'r mynyddau eu hunain. Dwg y mynyddau hyn, y Carneddi, enwau Llywelyn, Tywysog Cymru, a Dafydd ei frawd. Yn agos at Garnedd Llywelyn y saif ei wraig Yr Elen, sef Eleanor, merch Simon de Montfort. Ond pwy bynnag a enwodd y mynyddau hyn er cof am y teulu trasig hwn, rhaid ei fod heb wybod ffawd merch fach Llywelyn ac Eleanor, Gwenllian, a ddiflannodd o hanes pan gipiwyd gan y Brenin Edward I. Yng ngwlad ei genedigaeth, nid oes mynydd a enwyd er ei chof. Onid yw'n bryd ailuno Gwenllian â'i rhieni a'i hewythr yn eu cardarnle creigiog? Boed i'r plentyn a ddiflannodd gael ei chofio ynghŷd â'i mam a'i thad. Yn agos at Yr Elen y saif copa a chanddi'r enw diflas braidd "Carnedd Uchaf". Petai'r gopa hon yn cael ei hailenwi'n "Garnedd Gwenllian", byddai'r Dywysoges wedi'i dychwelyd yn symbolaidd i'w chynefin dir ac yn sefyll o'r diwedd wrth ochr ei theulu. Gwahoddir sylwadau ar y cynnig hwn a dylid eu hanfon drwy e-bost at y Gwefeistr. |
|